Amserlenni – Manylion
Os ydych chi’n teithio fel cwpl, grŵp o ffrindiau neu deulu – mae’r daith gymysg hon wedi ei llunio i ddangos diwylliant, treftadaeth a thirwedd rhanbarth gogledd Eryri.
Rydyn ni wedi cynnwys detholiad o’r pethau gorau i’w gwneud a lle i fwyta ac aros yn ardal gogledd Cymru. Gyda gweithgareddau cyffrous, cyfle i weld golygfeydd ac archwilio mannau’n hamddenol, dylai’r amserlen hon gynnig rhywbeth i deulu ag amrywiaeth eang o chwaeth.
Diwrnod 1 – Archwilio
Byddwch yn dechrau eich teithiau Eryri 360 yn Llanberis, wrth galon Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r pentref hwn ar droed yr Wyddfa ac, i deithwyr nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn mynyddoedd, mae hefyd yn cynnig Parc Gwledig Padarn ar lan y llyn yn ogystal â digonedd o siopau.
Bore – Yr Wyddfa
Does dim rhaid i chi gael pâr o esgidiau cerdded o reidrwydd ar gyfer cerdded i gopa’r mynydd uchaf yng Nghymru. Ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd godidog ar Reilffordd yr Wyddfa. Mae’r rheilffordd gul hon yn mynd â chi i’r copa ac yn ôl mewn dwy awr a hanner.
Dewch i fwynhau byrbryd ganol bore neu hyd yn oed ginio, yng nghaffi Rheilffordd yr Wyddfa, neu un o’r llu o lefydd bwyta hyfryd eraill yn Llanberis.
Prynhawn – Castell Caernarfon
Mae tref arfordirol hanesyddol Caernarfon o fewn cyrraedd mewn 15 munud o daith mewn car o Lanberis, ar hyd yr A406. Yma fe welwch gyfoeth o dreftadaeth ac mae ymweliad yn ystod y prynhawn â Chastell trawiadol Caernarfon yn hanfodol. Mae’r dref gyfan wedi ei hamgylchynu gan furiau cadarn y castell a’r dref gaerog, ac mae hefyd yn digwydd bod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sydd wedi cael ei adfer yn drawiadol. Prynhawn hwylus a hudolus o ymweld â siopau a bwytai ar ôl eich diwrnod yn y mynyddoedd.
Bwyd gyda’r nos a llety
Ar ôl diwrnod llawn o grwydro, ni fyddwch eisiau symud yn bell. Rydyn ni’n argymell cinio traddodiadol yn nhafarn y Black Boy ac aros dros nos o bosibl yn un o’u hystafelloedd niferus llawn cymeriad. Beth am ddewis un hystafelloedd gwely sydd â gwely pedwar postyn. Mae Tafarn y Black Boy yn sefyll o fewn Waliau’r Castell, ac yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 16eg ganrif.
Day 2 – Adrenaline
Ar ôl noson wych o gwsg, byddwch yn barod yn awr am ddiwrnod llawn cyffro.
Cinio
Ar ôl bore ar y wifren wib, byddwch yn barod am damaid i’w fwyta a ‘panad’ o de yn y caffi ar y safle. Bachwch stiw Cymreig traddodiadol, neu salad ffres, efallai. Mae llawer o brydau hyfryd i ddewis o’u plith yma.
Bwyd gyda’r nos a llety
Y noson hon, rydyn ni’n argymell eich bod yn aros ar y safle mewn llety glampio gan Llechwedd. Mae llawer o resymau pam mae’r llety wedi cael gwobr Seren Aur gan Croeso Cymru. Glampio mewn steil gyda golygfeydd godidog pan fyddwch chi’n deffro – beth arall y gellir ei ddweud. Dewch i fwyta ym mwyty’r Emporium ar y safle a rhoi cynnig ar un o’u pizzas popty cerrig blasus.
Diwrnod 3 – Ymlacio
Diwrnod hamddenol sydd ar y gweill heddiw, felly ar ôl brecwast, ewch am daith fer am 30 munud i bentref enwog Portmeirion ar lan Afon Dwyryd.
Mae’n gartref i bensaernïaeth eiconig, sba, siopau steilus, bwytai, caffis, gerddi egsotig a thraethau tywodlyd, felly mae digon i’ch difyrru yno.
Ar ôl cwpl ddyddiau prysur, byddem yn argymell eich bod chi’n cymryd eich amser yma, yn mynd o gwmpas, yn tynnu lluniau, yn bwyta ac yn siopa. Wedyn, gallech orffen eich taith gydag arhosiad yn un o’r ddau westy Portmeirion. Mae golygfeydd o’r môr i’w cael yn y ddau westy ac mae bwytai gwych yn y ddau le.
Dywedwch wrthym beth rydych chi’n ei feddwl
Rydyn ni’n ychwanegu amserlenni newydd yn rheolaidd at wefan Eryri 360. Y syniad y tu ôl i bob un yw rhoi cyfle i gyplau a theuluoedd o bob oed sy’n teithio gyda’i gilydd i gynllunio ymweliad â Pharc Cenedlaethol Eryri a’r ardal gyfagos.
Dywedwch wrthym beth yw eich barn am yr amserlen hon yn y sylwadau isod neu ar ein tudalen Facebook. Ydych chi wedi rhoi cynnig ar yr amserlen? Beth weithiodd yn dda a beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Diolch i chi am eich adborth.