Darganfyddwch 360 Eryri yn Ddiogel
9th JulDARPARU.
GOFALU.
DARGANFOD.
Croeso cynnes yn ôl i fynyddoedd ac arfordir Eryri, Ynys Môn a Phen Llyn. Wrth ichi baratoi’ch dychweliad i olygfeydd hyfryd yr 360 Eryri gofynnwn ichi ddilyn y camau syml hyn i wneud eich taith ar hyd llwybr 360 Eryri mor ddiogel â phosibl i chi a’r gymuned leol:
DARPARU.
Cynllunio ymlaen
Er mwyn gwneud y gorau o’ch ymweliad a sicrhau eich bod chi’n teithio i ac o amgylch Eryri yn ddiogel, gwnewch eich ymchwil cyn i chi adael cartref gan ddefnyddio map 360 Eryri fel eich canllaw. Mae llawer o weithredwyr busnes wedi addasu eu ffyrdd o gymryd archebion ac efallai eu bod wedi lleihau eu gwasanaethau a’u hamseroedd agor, felly bydd angen gwirio eu gwefan, neu’n galw cyn eich taith i osgoi cael eich siomi ac i osgoi dyrfaoedd mawr o bobl. Fe’ch cynghorir hefyd i ymchwilio i ble sy’n ddiogel ac ar gael i stopio am seibiannau toiled, pa feysydd parcio sydd ar agor, a pha lwybrau cyhoeddus sydd ar agor.
Teithio’n Gynaliadwy
Cefnogwch teithio gwyrdd drwy gerdded neu teithio ar feic gymaint â phosibl, neu defnyddiwch y gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael. Drwy gwneud hyn gallwch fwynhau buddion cefn gwlad wrth i chi deithio ac nid oes raid i chi boeni am ddod o hyd i le parcio ceir, oherwydd bydd rhai meysydd parcio ar gau. Mae wedi bod yn braf gweld llai o gerbydau ar y ffordd yn ystod y cyfnod cloi, gadewch inni barhau i wneud ein rhan i amddiffyn yr amgylchedd a chefnogi teithio mwy gwyrdd.
Cadw’ch dwylo’n lân
Efallai y bydd yn anodd golchi’ch dwylo yn aml tra bod allan yn yr awyr agored , felly gwnewch yn siŵr bod gennych lanweithydd dwylo gyda chi bob amser wrth ymweld a theithio ar hyd llwybr 360 Eryri. Bydd llawer o atyniadau yn darparu cyfleusterau glanweithio dwylo diogel pe byddech chi’n dewis archebu ymweliad â’r rhain ymlaen llaw yn ystod eich arhosiad.
GOFALU.
Ewch â’ch sbwriel adref
Ddylech chi byth adael eich sbwriel ar ôl wrth ymweld â Gogledd Orllewin Cymru, mae’n beryglus i fywyd gwyllt ac yn peri risg i bobl wrth ledaenu firysau os na chaiff eu gwaredu’n iawn. Os nad oes biniau ar gael, ewch â’ch sbwriel adref gyda chi.
Byddwch yn Barchus
Parchwch y gymuned leol a’r rhai a allai fod mewn mwy o risg trwy gadw at y canllawiau a ddarperir gan y Llywodraeth.
Amddiffyn ein Bywyd Gwyllt
Byddwch hefyd yn barchus o’r bywyd gwyllt yn Eryri, Ynys Môn a Phen Llyn. Dangoswch eich cefnogaeth tuag at y bywyd gwyllt a phorwyr anifeiliaid hanfodol trwy gadw’ch ci ar dennyn, cadw at y llwybr, a mynd â’ch sbwriel adref.
Cadwch eich pellter 2m
P’un a ydych chi’n aros y tu fewn neu’n mentro allan i gefn gwlad, cadwch at ganllawiau’r Llywodraeth ar bellhau cymdeithasol bob amser wrth ddarganfod Eryri, cadwch 2 fetr ar wahân i eraill os nad ydyn nhw o’ch cartref. Byddwch yn ymwybodol bod hyn hefyd yn berthnasol wrth wneud unrhyw fath o ymarfer corff yn yr awyr agored fel cerdded, nofio, rhedeg a beicio.
DARGANFOD.
Osgoi ardaloedd prysur
Mae gan bob un ohonom ein hoff fannau awyr agored yn Eryri, fodd bynnag, cofiwch y gallai pobl eraill fod yn ymweld neu’n byw ger y lleoedd hyn hefyd. Er mwyn sicrhau y gellir gwneud pellter cymdeithasol yn ddiogel, ceisiwch osgoi lleoedd poblogaidd lle gall nifer fawr o bobl ymgynnull. Bydd hyn yn lleihau’r risgiau i chi’ch hun, eich teulu, a’r gymuned leol. Mae llwybr 360 Eryri yn cynnig ardal enfawr o dirweddau hardd a digon o atyniadau y gallwch eu darganfod yn ddiogel.
Y tu hwnt i’r tirwedd
Mae cymaint mwy i Eryri, Ynys Môn, a Phen Llyn na’r tirwedd hardd, mae trefi a phentrefi lleol y rhanbarth yn llawn o fanwerthwyr a bwytai annibynnol. Defnyddiwch ganllaw 360 Eryri i ddarganfod y gorau o gynnyrch Cymreig.
Defnyddiwch y Gymraeg
Mae Eryri, Ynys Môn, a Pen Llyn yn gartref i’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y Byd. Beth am ddefnyddio’r y cyfle i sgwrsio yn yr iaith frodorol wrth i chi ymweld â’r ardal.