Esblygiad Brand 360 Eryri i Ddathlu Dydd Gŵyl Dewi
1st MarEsblygiad Brand 360 Eryri i Ddathlu Dydd Gŵyl Dewi
Rydym yn rhoi Eryri yn gyntaf.
Ar drydydd pen-blwydd 360 Eryri, mae’r tîm y tu ôl i Atyniadau Eryri wedi cyhoeddi eu penderfyniad i ail-lansio o, ‘Snowdonia 360 Eryri’, i, ‘Eryri Snowdonia 360’, mewn symudiad sy’n adlewyrchu hunaniaeth, pwrpas, a gweledigaeth y grŵp twristiaeth.
Bydd y newid yn gweld ailddatblygiad brand, gyda logo Snowdonia 360 Eryri bellach yn arwain gyda’r enw Cymraeg brodorol ‘Eryri’, yn cael blaenoriaeth dros ei gymar Saesneg ‘Snowdonia’.
Mae’r symudiad pwysig hwn yn efelychu’r penderfyniad arwyddocaol a wnaed gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn dilyn deiseb â 5,000 o lofnodion, a fydd bellach yn defnyddio’r enwau Cymraeg Yr Wyddfa ac Eryri yn hytrach na Snowdon a Snowdonia.
Eglurodd Sian Pritchard o Eryri Snowdonia 360: “Rydym wedi gwneud y penderfyniad strategol hwn i fuddsoddi mewn esblygiad brand yn unol â’r newidiadau diweddar a wnaed yn wreiddiol gan ein Parc Cenedlaethol, wrth i ni gydnabod arwyddocâd enfawr y penderfyniad. Wrth gwrs, nid yw cyhoeddi’r newidiadau hyn ar Ddydd Gŵyl Dewi yn gyd-ddigwyddiad, ac mae hefyd yn nodi tair blynedd ers i ni lansio’r llwybr twristiaeth.
“Trwy arwain gyda’r enw Cymraeg ar ein logo, anelwn at amlygu pwysigrwydd ein hiaith frodorol a’n diwylliant. Rydym hefyd yn annog eraill i ymgysylltu â ni drwy ddefnyddio ein henwau Cymraeg a chefnogi ymdrech ehangach i dynnu sylw at ein treftadaeth. Er y gall y newidiadau hyn ymddangos fel diweddariadau dylunio syml, maent yn hynod o bwysig ac nid yn unig yn dangos ein cydsafiad â’n Parc Cenedlaethol ond yn amlygu ein balchder ein hunain yn yr iaith Gymraeg a’n diwylliant.”
Dywedodd Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri–
“Mae gennym ni enwau hanesyddol yn y ddwy iaith, ond rydyn ni’n awyddus i ystyried y neges rydyn ni am ei chyfleu am enwau lleoedd, a’r rôl sydd ganddyn nhw i’w chwarae yn ein treftadaeth ddiwylliannol bresennol drwy hyrwyddo’r Gymraeg fel un o rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol.
“Mae dibenion statudol y Parc Cenedlaethol yn dynodi’r gofyniad i warchod a gwella ein treftadaeth ddiwylliannol a darparu cyfleoedd i bobl ddysgu am y rhinweddau arbennig a’u mwynhau. Wrth gyfeirio at ein tirnodau enwocaf wrth eu henwau Cymraeg rydyn ni’n rhoi cyfle i bobl o bob rhan o’r byd ymgysylltu â’r iaith Gymraeg a’i diwylliant cyfoethog.”
Daw’r ailfrandio i rym ar unwaith ac mae’r gwaith o gyflwyno’r holl lwyfannau marchnata o dan Eryri Snowdonia 360 eisoes ar y gweill.